Chief Executive
Salary of £208,116 per annum (April 2026 pay award pending)
Lead the next chapter of a capital city on the rise. This is a moment. Not just a role.
Cardiff stands tall as the capital city of Wales, a major Core City and a place of growing national confidence. Over recent years, under its current leadership, the Council has stabilised, strengthened and earned recognition as a good, ambitious organisation with a ‘can‑do’ culture. The foundations are firm. The organisation is confident. The ambition is clear.
Now, Cardiff is ready for its next Chief Executive and are seeking a leader who will build on this success and support the political administration to take the city to the next level.
A city with momentum and unfinished business
Cardiff is a city of opportunity, energy and diversity, home to more than 383,000 residents and a workforce of 15,000 people delivering over 700 vital services every day. Major regeneration, economic growth and cultural vibrancy sit alongside real pressures: rising demand, financial constraint, inequality, climate responsibility and the increasing expectations of citizens.
Our challenge is not whether we can lead change, it is whether we can sustain it, deepen it and deliver it at scale.
As Chief Executive, you will inherit an organisation that is stable, ambitious and outward facing. Your task will be to:
Consolidate and extend the progress made in recent years Translate political ambition into delivery that residents can see and feel Ensure Cardiff continues to perform as a confident capital city and Core City Lead transformation that is bold, inclusive and financially sustainable A role of substance, influence and visibility
This is one of the most significant Chief Executive roles in local government.
Working in close partnership with the Leader of the Council and Cabinet, you will provide clear, politically astute and values‑led leadership, ensuring the delivery of Cardiff’s Stronger, Fairer, Greener agenda. You will empower an experienced senior management team, set high standards of performance and governance, and create the conditions for innovation and collaboration to thrive.
Beyond the organisation, you will help shape Cardiff’s relationships across government, the city region, public services, business and the third sector, ensuring the capital city plays a leading role regionally and nationally.
This is not about managing decline or holding the line. This is about leadership with confidence, credibility and conviction.
Who we are looking for
We are seeking an outstanding, experienced and resilient Chief Executive with a proven track record of leading complex, politically‑led organisations through change and transformation.
You will bring:
Gravitas and authenticity, with the ability to command trust across political boundaries A strong delivery mindset, grounded in sound governance and financial stewardship The confidence to challenge constructively and the skill to unite people behind a shared direction A deep commitment to equality, inclusion and public service values An ability to thrive in a Member-led, professionally-managed and policy-driven environment Most of all, you will be motivated by the opportunity to build on the legacy of success already achieved, and to shape Cardiff’s future at a defining point in its journey.
For a confidential discussion, please contact Gary Evans (07809 195 593) or Delicia Coutinho (07741 264 892) at GatenbySanderson or for further information visit www.gatenbysanderson.com/job/GSE132046
Closing date 10 June 2026 12:00pm
Prif Weithredwr
Cyflog o £208,116 y flwyddyn (yn aros am ddyfarniad cyflog Ebrill 2026 )
Arwain pennod nesaf prifddinas sydd ar i fyny. Mae hwn yn foment. Nid rôl yn unig.
Mae Caerdydd yn sefyll yn falch fel prifddinas Cymru, Dinas Graidd fawr a dinas lle mae hyder cenedlaethol ar gynnydd. Dan yr arweinyddiaeth bresennol, dros y blynyddoedd diwethaf mae'r Cyngor wedi sefydlogi, cryfhau ac ennill cydnabyddiaeth fel sefydliad da, uchelgeisiol sydd â diwylliant o 'allu-gwneud'. Mae'r sylfeini'n gadarn. Mae'r sefydliad yn hyderus. Mae'r uchelgais yn glir.
Nawr, mae Caerdydd yn barod ar gyfer ei Phrif Weithredwr nesaf ac yn chwilio am arweinydd a fydd yn adeiladu ar y llwyddiant hwn ac yn cefnogi'r weinyddiaeth wleidyddol i fynd â'r ddinas i'r lefel nesaf.
Dinas â momentwm sydd â gorchwyl eto i’w gorffen
Mae Caerdydd yn ddinas o gyfleoedd, egni ac amrywiaeth, sy'n gartref i fwy na 383,000 o drigolion a gweithlu o 15,000 o bobl sy'n darparu dros 700 o wasanaethau hanfodol bob dydd. Mae gwaith adfywio mawr, twf economaidd a bywiogrwydd diwylliannol yn cyd-fynd law yn llaw â phwysau gwirioneddol: galw cynyddol, cyfyngiadau ariannol, anghydraddoldeb, cyfrifoldeb dros yr hinsawdd a disgwyliadau cynyddol dinasyddion.
Nid arwain newid yw’r her i ni, ond a allwn gynnal, dyfnhau s chyflawni newid ar raddfa.
Fel Prif Weithredwr, byddwch yn etifeddu sefydliad sy’n sefydlog, uchelgeisiol ac sy’n edrych tuag allan. Eich tasg chi fydd:
Cadarnhau ac ehangu’r cynnydd a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf Trosi uchelgais wleidyddol yn gyflawni y gall preswylwyr ei weld a'i deimlo Sicrhau bod Caerdydd yn parhau i berfformio fel prifddinas a Dinas Graidd hyderus Arwain trawsnewid sy'n feiddgar, yn gynhwysol ac yn gynaliadwy yn ariannol Swydd o sylwedd, dylanwad a gwelededd
Dyma un o'r swyddi Prif Weithredwr mwyaf arwyddocaol ym myd llywodraeth leol.
Gan weithio mewn partneriaeth agos ag Arweinydd y Cyngor a'r Cabinet, byddwch yn cynnig arweinyddiaeth glir, gwleidyddol graff wedi'i harwain gan werthoedd, gan sicrhau bod yr agenda Cryfach, Tecach, Gwyrddach yn cael ei chyflawni. Byddwch yn grymuso uwch dîm rheoli profiadol, yn gosod safonau uchel o ran perfformiad a llywodraethiant, ac yn creu'r amodau fel bod arloesi a chydweithredu yn ffynnu.
Y tu hwnt i'r sefydliad, byddwch yn helpu i lunio perthnasoedd Caerdydd ar draws llywodraeth, y ddinas-ranbarth, gwasanaethau cyhoeddus, byd busnes a'r trydydd sector, gan sicrhau bod y brifddinas yn chwarae rôl flaenllaw yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Nid mater o reoli dirywiad neu ddal ati ‘mo hyn. Mae hyn yn ymwneud ag arwain gyda hyder, hygrededd ac argyhoeddiad.
Am bwy rydym yn chwilio?
Rydym yn chwilio am Brif Weithredwr rhagorol, profiadol a gwydn sydd â hanes profedig o arwain sefydliadau cymhleth, dan arweiniad gwleidyddol trwy newid a thrawsnewid.
Byddwch yn ymgorffori:
Gravitas a dilysrwydd, gyda'r gallu i hawlio ymddiriedaeth ar draws ffiniau gwleidyddol Meddylfryd cyflawni cryf, wedi'i seilio ar lywodraethiant a stiwardiaeth ariannol cadarn Yr hyder i herio'n adeiladol a'r sgil i uno pobl i gyd-dynnu i’r un cyfeiriad Ymrwymiad dwfn i gydraddoldeb, cynhwysiant a gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus Y gallu i ffynnu mewn amgylchedd dan arweiniad Aelodau a reolir yn broffesiynol ac sy'n cael ei yrru gan bolisi Yn bennaf oll, byddwch yn cael eich ysgogi gan y cyfle i adeiladu ar waddol y llwyddiant a gyflawnwyd eisoes, ac i lywio dyfodol Caerdydd ar adeg tyngedfennol ar ei thaith.
Am drafodaeth gyfrinachol, cysylltwch â Gary Evans (07809 195 593) neu Delicia Coutinho (07741 264 892) yn GatenbySanderson neu am ragor o wybodaeth ewch i www.gatenbysanderson.com/job/GSE132046
Dyddiad Cau: 10fed Mehefin 2026 12:00yp
To apply please click the Apply Now link below.